Meithrin: Mae datblygu'r iaith Gymraeg yn cael ffocws blaengar yng ngweithgareddau dysgu ac addysgu plant dan 5 oed. Byddwn yn dilyn themâu pwrpasol a bydd ein holl weithgareddau yn berthnasol i'r rhain a phob gweithgaredd yn arwain at ddarllen, ysgrifennu a mathemateg.
Derbyn:
Addysgir y plant yn ystod y cyfnod hwn drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddilyn canllawiau y Canlyniadau Dymunol. Rhoddir pwyslais ar ddysgu trwy chwarae gan weu datblygiad ieithyddol, mathemategol, corfforol, creadigol, personol a chymdeithasol yn ogystal â gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd i'r gweithgareddau amrywiol. Darperir cwricwlwm eang sy?n cynnig cyfleoedd a phrofiadau uniongyrchol.
Cyfnod Allweddol 1 (plant 5-7 oed)
Gosodir prif sylfeini'r profiadau dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y pwyslais ar ddatblygu'r sgiliau hanfodol, sef cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd. Trwy ddarparu cwricwlwm cyfoethog ac eang, gan ddefnyddio ymagwedd integredig, anelwn at ddatblygu diddordebau'r plant ar yr un pryd â chydnabod lefel eu haeddfedrwydd. Mae'r blynyddoedd hyn yn bwysig, pan fydd y plant yn dysgu sut i arsylwi, gwrando, ymateb a datblygu nid yn unig fel unigolion ond hefyd fel aelodau gofalgar o'n cymuned.
Cyfnod Allweddol 2 (Plant 7-11 oed)
Bydd sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r cwricwlwm. Ond, wrth i'w dealltwriaeth o'r gwahanol ddisgyblaethau wella, bydd mwy o amser yn cael ei neilltuo i wyddoniaeth a'r pynciau sylfaenol eraill. Cyflwynir Saesneg ym mlwyddyn 3.
Anogir y plant i ddatblygu hunan hyder, annibyniaeth wrth ddysgu a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Mae profiadau diwylliannol ac esthetig yn chwarae rhan bwysig yng nghwricwlwm yr ysgol. Trwy gerddoriaeth, celf, addysg gorfforol a drama bydd y plant yn dysgu mynegi eu talentau a'u diddordebau unigol. Byddant yn cael cyfle i ennill cydnabyddiaeth am eu llwyddiant fel unigolion ac fel aelod o grŵp neu dîm. Anogir a chefnogir pob disgybl i gyrraedd y safon uchaf posib o fewn ei allu / gallu. I'r perwyl hwn mae?n rhaid i'r cwricwlwm fod yn eang ac yn gytbwys, gan adlewyrchu blaenoriaethau'r ysgol a darparu profiadau angenrheidiol.