1 Jul 2009 - Llais Llwynderw - Mehefin 2009
Cafwyd diwrnod bendigedig ym Mae Caerdydd ar Ddydd Llun cyntaf gwyliau hanner tymor. Roedd y côr yn cystadlu yng nghystadleuaeth côr ysgolion hyd at 150 o blant. Yn anffodus ni chafwyd llwyddiant ar y dydd ond perfformiodd y plant yn fendigedig ar lwyfan Neuadd Hoddinot yng Nghanolfan y Mileniwm. Diolch yn fawr iawn i’r rhieni a ddaeth i gefnogi’r plant. Edrychwn ymlaen at Eisteddfod y flwyddyn nesaf!
We had a wonderful day in
Roedd y 5ed o Fehefin yn ddiwrnod bythgofiadwy i bawb yn Ysgol Llwynderw. Dyna pryd roedd yr ysgol yn agor yn swyddogol. Wedi bore prysur o baratoi ac ymarfer, braf oedd croesawi prif weinidog Cymru, Mr. Rhodri Morgan A.C. i agor yr ysgol yn swyddogol. Roedd nifer o wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa- cyn-ddisgyblion, cyn-staff, ffrindiau’r ysgol ac ati. Wedi blynyddoedd o frwydro am gael safle ac ysgol newydd i Llwynderw roedd y seremoni yn gyfle i ddathlu’r fuddigoliaeth dros addysg Gymraeg yn y sir. Cafwyd eitem hyfryd gan gôr yr ysgol gyda plant Blwyddyn 5 yn cymryd yr awennau i adrodd hanes sefydlu’r ysgol. Diolch i bob aelod o gôr yr ysgol am eu gwaith dros yr wythnosau diwethaf-yn dysgu geiriau di-ri yn ogystal ag alawon newydd hefyd. Rhaid canmol holl blant yr ysgol hefyd ar eu hymddygiad penigamp. Bu’r plant yn eistedd fel cynulleidfa gogyfer y seremoni am dros i awr. Yn wir, roeddem yn teimlo’n falch iawn o bob un ohonynt.
Wedi’r seremoni cafodd y gwahoddedigion gyfle i fynd am daith o gwmpas yr ysgol a mwynhau lluniaeth ysgafn. Diolch yn fawr i’r rhieni a ddaeth i’r seremoni hefyd. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o deulu’r ysgol wedi ymuno â ni yn ystod y prynhawn.
Diolch yn fawr i Mr. Meirion Howells a’i wraig am baratoi’r mefus a’r hufen gogyfer y rhieni. Diolch hefyd i Mrs. Julie Thomas a Mrs. Mari Davies am wneud cacennau gogyfer y plant fel rhan o’r dathliad. Roedd pob plentyn yn llyfu ceg ac eisiau mwy! Diolch hefyd i Mrs.Carlson am wneud y cacennau gogyfer y gwahoddedigion. Roedd boliau pawb yn llawn erbyn diwedd y prynhawn.
Doedd dim amser i ymlacio wedi‘r seremoni gan fod yna dwmpath teuluol wedi ei drefnu gan y CRA. Addurnwyd y neuadd yn fendigedig gan aelodau o’r CRA a daeth nifer fawr o deuluoedd yn llawn bwrlwm gogyfer y dawnsio gwerin! Cyn dawnsio cafwyd bwyd hyfryd. Roedd safon y bwyd yn uchel iawn. Diolch yn fawr i bawb a fu ynghlwm â’r paratoi gogyfer yr achlusur. Erbyn diwedd y nos cafwyd twmpath gyda Mr. Jones yn galw. Gwelwyd bod gan ambell i athro ddwy goes chwith wrth iddynt ymuno yn yr hwyl! Yn sicr, roedd diwrnod agoriad swyddogol yr ysgol yn ddiwrnod i’r brenin!
The 5th of June was a memorable day for everyone at Ysgol Llwynderw. That's when the school was opened officially. After a busy morning of preparing and practicing, it was a pleasure to welcome
After the ceremony the invited guests were given a tour of the school and enjoyed some light refreshments. Thanks to the parents who also came to the ceremony. It was lovely to see so many of the school family joining us during the afternoon.
Many thanks to Mr Meirion Howells and his wife for preparing strawberries and cream for the parents. Thanks also to Mrs Julie Thomas and Mrs Mari Davies for making cakes for the children as part of the celebrations. Every child was licking their lips wanting more! Also, thank you to Mrs Carlson for making the cakes for the guests. Everybody was full by the end of the afternoon.
There was no time to relax after the ceremony as the PTA had arranged a family twmpath. The hall was decorated beautifully by the PTA members, and a large number of families came to the folk dancing! We had some very nice food before the dancing. The standard of the food was very high. Many thanks to everyone who was involved in preparing the occasion. By the end of the evening we had a twmpath led by Mr Jones. It was obvious during the dancing that some of the teachers had two left feet!! It's safe to say that the official opening of the school was a day to remember!


Fel rhan o bontio gogyfer Ysgol Gyfun Gŵyr fe baciodd plant blwyddyn 6 eu bagiau yng nghanol y mis gogyfer treulio wythnos draw yn Llangrannog. Cyfle i ddod i adnabod plant o ysgolion eraill oedd hyn yn ogystal â dod i adnabod ambell i athro o’r ysgol hefyd. Bore Llun roedd pawb ar bigau’r drain eisiau dianc o Llwynderw am wythnos- gan gynnwys Miss. Siân Griffiths a oedd yn mynd gyda’r plant am yr wythnos! Cafwyd wythnos lwyddianus tu hwnt gyda phawb yn falch iawn i gyrraedd y gwely a chael cysgu cyn diwrnod arall llawn antur yng nghanolfan yr Urdd. Uchafbwynt yr wythnos heb os nac onibai oedd y disgo ar y nos Iau. Daeth y plant adref ar y prynhawn dydd Gwener yn barod am eu gwely (a’r bath hefyd!) Diolch yn fawr i Miss
As part of the transition to Ysgol Gyfun Gŵyr, year 6 pupils packed their bags during the month for a week in Llangrannog. It was an opportunity to get to know children from other schools, and some of the teachers too. Everybody was raring to go on Monday morning, leaving Llwynderw for a week - including Miss Siân Griffiths who was going with the children for the week! The week was a huge success, and everybody was happy to get to bed for a night's sleep before another day full of adventure at the Urdd Centre. Without a shadow of a doubt, the highlight of the week was the disco on Thursday night. The children returned home on Friday afternoon, ready for their beds (and bath too!) Many thanks to Miss Griffiths for ensuring the children were happy and safe during the week.
Agorwyd drysau Llwynderw i staff ysgolion cynradd Cymraeg Abertawe yn ystod mis Mehefin hefyd. Cynhaliwyd nifer o nosweithiau agored er mwyn iddynt gael gweld yr ysgol. Agorwyd Ysgol Llwynderw gan fod galw am addysg Gymraeg o fewn y sir ac mae’r diolch am y galw yma i lwyddiant ysgolion eraill â sefydlwyd flynyddoedd yn ôl. Felly pleser oedd gwahodd holl deulu byd addysg cynradd Cymraeg i’r ysgol.
Llwynderw's doors were also opened to

Efallai bod rhai o rieni’r ysgol wedi sylwi ar yr aderyn helyg sydd ar dir yr ysgol. Dyma ôl gwaith plant blwyddyn 3 wedi iddyn nhw weithio gyda’r artist, Sarah Holden. Roedd yr aderyn yn teimlo ychydig yn unig ac felly braf oedd croesawi Sarah Holden yn ôl i weithio gyda phlant bl. 4. Erbyn hyn mae yna ddau aderyn i’w gweld yn yr ardd fechan sydd ger ochr yr ysgol. Mae’n amlwg bod gwaith mawr tu ôl i’r cerfluniau godidog yma.
Maybe some of the school parents noticed the willow bird situated in the school grounds. This is the work of year 3 children created with the artist, Sarah Holden. The bird was feeling a little lonely, so it was nice to invite Sarah Holden back to work with year 4 pupils. By now, there are two birds in the small garden at the side of the school. It is obvious that a lot of hard work went into these splendid sculptures.

Gyda ni bellach mewn ysgol newydd sbon, fodern roedd yn brofiad rhyfedd iawn i blant Bl.5 a 6 i gael gwers yng nghyfnod Oes Fictoria! Daeth y plant i’r ysgol yng ngwigoedd y cyfnod a theithio draw i Ysgol Maestir yn San Ffagan. Yno cafwyd gwers wahanol iawn i’r math o wersi yr ydyn ni yn eu dysgu yma yn Llwynderw! Dwi’n sicr na fydd neb yn cwyno am athrawon llym a chas yn yr ysgol wedi’r profiad o gael gwers gan athro o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg! Diolch yn fawr i’r rhieni am yr ynmdrech gyda’r gwisgoedd. Mae’n siwr fod y plant wedi siomi’n fawr eu bod yn gorfod gwisgo eu gwisgoedd ysgol unwaith yn rhagor!
As we are now in a brand new, modern school, it was quite an experience for year 5 and 6 pupils to receive a lesson in the Victorian Age! The children came to school in Victorian attire, and travelled to Ysgol Maestir at St Fagan's. They received a lesson which was very different to the type of lesson they're used to at Ysgol Llwynderw! I'm certain that nobody will be complaining about strict and mean teachers at the school after the experience of being taught by a teacher from the nineteenth century! Many thanks to all the parents for their efforts with the costumes. I'm sure the children are very disappointed at having to wear their school uniforms once again!